Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Rhagfyr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12521
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn mewn fformat rhithwir, gydag Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad ar ganmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru.
Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad i gofio’r Athro Robert Owen OBE, llawfeddyg orthopaedig Cymreig rhagorol a anwyd 100 mlynedd yn ôl ar 21 Rhagfyr 1921 yn Chwilog.
Gwnaeth Lesley Griffiths ddatganiad ar Wŷl yr Angylion yn Eglwys San Silyn, Wrecsam.
Gwnaeth Peter Fox ddatganiad i nodi cyfraniad Tony Griffiths, fu’n aelod o Gyngor Cymuned Porthsgiwed am 52 mlynedd cyn ymddeol yr wythnos flaenorol.
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy llofnodion deisebau
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM7868 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy llofnodion deisebau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021; ac
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Y broses cydsyniad deddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7843
Rhys
ab Owen (Canol De Cymru)
Alun
Davies (Blaenau Gwent)
Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.
2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.
3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;
b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;
c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
19 |
15 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.07
NDM7870 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod yn Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7871 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi ymgyrch COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19.
2. Yn croesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru.
3. Yn nodi y bydd ymchwiliad COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, fe wnaeth y Llywydd arfer ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru;
b) ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn ystyried y penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y pedair gwlad;
c) bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
2. Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad y DU yn cynnwys sylw priodol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, fe wnaeth y Llywydd arfer ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 1. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.19 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
9 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Crynodeb o Bleidleisiau
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.27
NDM7869 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Datblygu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe
Daeth y cyfarfod i ben am 17.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Ionawr 2022